Isaiah 20

Eseia'n proffwydo cwymp yr Aifft a Teyrnas Cwsh

1Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod
20:1 Ashdod Concrodd y brenin Sargon II o Asyria dref y Philistiaid yn 711 CC
, a'i choncro.
2Dyma'r Arglwydd yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a tynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.

3Yna dyma'r Arglwydd yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a Teyrnas Cwsh yn Nwyrain Affrica
20:3 Cwsh … Affrica Hebraeg, Cwsh. Teyrnas i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed,
4bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh
20:4 Cwsh Teyrnas i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
– ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft!
5Byddan nhw'n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o'r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a'r Aifft (y rhai roedden nhw'n eu brolio). 6Bryd hynny, bydd y rhai sy'n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i'r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai'n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”

Copyright information for CYM